Independent British Tour Operator Specializing in Peru  
Tel:
++44 (0)1248 430621
Email us

Add to Favourites!
english
spanish
Useful information on Peru Essential Travel and Health Information

Peruvian secrets is proud to announce a new destination for 2008 to our countries of South America. As a tour operator here on Anglesey in North Wales, we're looking forward to providing welsh speaking tours to these unique Welsh colonies.
For more information

Arequipa Puno Nazca Cuzco Machu Picchu Puerto Maldonado Paracas Lima Huaraz Trujillo Cajamarca Chachapoyas Chiclayo Iquitos
Y Wladfa - Patagonia - Argentina
CRYNODEB
Cwsmer: Nifer yn Grwp: 2
Hyd: 14 diwrnod / 13 noson (yn yr Ariannin) Dyddiadau: Oct - Nov 2008
Disgrifiad: Taith hanesyddol a diwylliannol o’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia.
Lleoliadau: Buenos AiresPorth MadrynGaiman, Dyffryn CamwyTrevelin, Cwm HyfrydBuenos Aires (2 noson)(3 noson)(3 noson)(4 noson)(1 noson)
Pris: tua £1950.00 y pen
Diwrnod RHAGLEN yn FRAS
1 Buenos Aires: Cyrraedd, taith dinas Buenos Aires a Sioe Tango
2 Buenos Aires: Diwrnod ar estancia traddodiadol yn y Pampas
3 Buenos Aires/Porth Madryn: Hedfan i Trelew, teithio i Porth Madryn ac ymweld â Amgueddfa’r Glaniad
4 Porth Madryn: Gwylio morfilod, Safle Treftadaeth Gorynys Valdés
5 Porth Madryn: Diwrnod yn rhydd
6 Porth Madryn/Gaiman: Nythfa Pengwiniaid Punta Tombo, Amgueddfa Palaeontoleg yn Trelew a theithio i Gaiman
7 Gaiman: Gaiman, amgueddfeydd a chapeli, dyffryn yr Afon Camwy, a Capel Moriah
8 Gaiman: Bod Iwan, fferm draddodiadol Gymreig yn Bryn Crwn
9 Gaiman/Trevelin: Taith dros y Paith i Trevelin, Cwm Hyfryd, yn yr Andes
10 Trevelin: Trên bach “La Trochita” (Old Patagonian Express) a thaith hanesyddol o gwmpas Cwm Hyfryd
11 Trevelin: Diwrnod yn rhydd
12 Trevelin: Parc Cenedlaethol Los Alerces a Saffari Dwr
13 Trevelin/Buenos Aires: Taith i Bariloche a hedfan i Buenos Aires
14 Buenos Aires: Gadael
Hediad Manylion
Buenos Aires - Trelew Aerolineas Argentinas
Bariloche - Buenos Aires Aerolineas Argentinas
Diwrnod RHAGLEN yn FANWL
1 Buenos Aires - Dinas Buenos Aires a Sioe Tango
Cyrraedd yn gynnar i faes awyr ryngwladol Ezeizah lle bydd cynrychiolydd Andes Celtig yn eich cyfarfod. Gan fod amseroedd glanio fleits rhyngwladol yn golygu ei bod hi’n rhy gynnar i fynd i’r gwesty byddwch yn cael eich tywys ar daith o gwmpas dinas Buenos Aires. Ymysg y llefydd byddwch yn gweld bydd Avenida 9 de Julio, Theatr Colón, Obelisco, Congreso, Viejo Congreso, Manzana de las Luces, Plaza de Mayo, La Boca, El Caminito, Palermo ac Recoleta. Mae’r daith yn cynnwys cinio mewn bwyty ar lân yr hen borthladd ar y Costanera Norte, Puerto Madero. Ar ôl cinio byddwch yn cael eich tywys i’ch gwesty canolog lle bydd amser i ymlacio neu fynd am dro o gwmpas yr ardal. Ar fin nos, byddwch yn mynd i weld Sioe Tango lle clywch sut mae’r Tango traddodiadol yn cael ei datgan y dyddiau hyn. Gwrandewch ar gerddorfa Tango a gwyliwch dawnswyr yn mynegi eu crefft tra’r ydych yn mwynhau eich pryd.

2 Buenos Aires - Diwrnod ar estancia traddodiadol yn y Pampas
Taith diwrnod llawn: i’r Pampas at estancia draddodiadol i fwynhau diwrnod gyda gauchos. Ar ôl cyrraedd, byddwch yn derbyn croeso mewn adeilad nodweddiadol gyda empanadas (math o bastai), diodydd ysgafn a gwinoedd. Byddwch wedyn yn cael eich tywys o gwmpas yr estancia i ymweld â’r prif adeilad, sef cartref y perchennog, yr amgueddfa, y becws, y stablau ac adeiladau eraill. Bydd cyfle i fynd am dro â cheffyl a throl, neu ar gefn ceffyl os ydych yn dewis. Dilynir hyn gan Sioe Gaucho a gwledd o gigoedd rhost, llysiau, bara a gwinoedd (asado) gyda dawnswyr a chantorion yn dehongli cerddoriaeth a dawnsiau gwerin yr Ariannin. Yn y prynhawn, bydd cyfle i weld y gauchos ar eu ceffylau yn eich difyrru wrth iddynt gyflawni eu gweithgareddau a chwaraeon. Yn dilyn hyn bydd cyfle i fynd am dro ac ymweld â siopau crefft yr estancia a mwynhau ardal wledig y Pampas.

3 Buenos Aires / Porth Madryn - Hedfan i Trelew, Amgueddfa’r Glaniad
Byddwch yn cael eich danfon i faes awyr Aeroparque yn gynnar er mwyn hedfan i Trelew yn Nhalaith Chubut, Patagonia. Hediad o tua 2 awr. Bydd cynrychiolydd Andes Celtig yno yn disgwyl a byddwch yn teithio yn uniongyrchol i Porth Madryn, tua awr o daith, ac i’r gwesty. Yn y prynhawn byddwch yn ymweld â Amgueddfa’r Glaniad ym Mhenrhyn yr Ogofau ar lannau’r bae lle glaniwyd y fintai gyntaf oddi ar y gliper “Mimosa” yn 1865. Mae’r canolfan hanesyddol yn dehongli dyddiau cynnar y Gwladfawyr ac mae nifer o eitemau diddorol i weld, yn cynnwys yr ogofau cafwyd eu defnyddio i lochesu’r fintai dros dro.

4 Porth Madryn - Gwylio morfilod, Safle Treftadaeth UNESCO Gorynys Valdés
Taith diwrnod llawn: i Gorynys Valdés sydd gyferbyn â Porth Madryn dros y Bae Newydd. Mae’r gorynys wedi ei rhestru gan UNESCO fel Safle Treftadaeth y Byd. Mae’r safle yn adnabyddus am ei bioamrywiaeth ac am ei morfilod Wright, prif atyniad yr orynys. Yn y bore byddwch yn hwylio ar gwch bydd yn rhoi cyfle i wylio’r morfilod yn agos. Yn y prynhawn byddwch yn cael eich tywys i rannau eraill yr orynys, yn bennaf i Caleta Valdés er mwyn gweld anifail ysblennydd arall, yr eliffant môr. Anifeiliaid eraill a welid, o bosib, yw llewod môr, gwanaco, dulog, petris, estrys, llwynogod, fwlturiaid, mara (ysgyfarnog Patagonia) a heidiau o adar o bob lliw.


5 Porth Madryn
Diwrnod yn rhydd: cyfle i fwynhau Porth Madryn, tref lan y môr poblogaidd sydd â llawer o wasanaethau ac atyniadau ar gyfer twristiaid.
6 Porth Madryn / Gaiman - Nythfa Pengwiniaid Punta Tombo ac Amgueddfa Palaeontoleg
Taith diwrnod llawn: i Punta Tombo, nythfa pengwiniaid Magellan fwyaf y byd. Mae’r daith yn cyfle unigryw i fod yn rhan o gymdeithas o dros filiwn o bengwiniaid Magellan. Bydd yn bosib i chi gerdded ymysg yr adar bach hoffus hyn, sylwi ar eu gweithgareddau, eu cerddediad doniol a’r modd y maen nhw’n gofalu am eu nythod a magu eu cywion ymysg y llwyni. O Punta Tombo byddwch yn dychwelyd i Trelew i ymweld â Amgueddfa Palaeontoleg MEF. Yr amgueddfa yma yw’r mwyaf o’i bàth yn Ne America. Mae’r arddangosfeydd yn eich tywys i’r gorffennol i weld bywyd ein cyndadau a’r dinosoriaid oedd yn bresennol yn y rhanbarth am filiynau o flynyddoedd. Ymysg yr atyniadau, mae’r amgueddfa yn arddangos ysgerbydau gwahanol dinosoriaid. Yn hwyrach byddwch yn cael eich tywys i’r gwesty yn Gaiman.

7 Gaiman - Amgueddfeydd a chapeli, dyffryn yr Afon Camwy a Capel Moriah
Yn y bore byddwch yn cael eich tywys am dro o amgylch Gaiman yn ymweld â’r amgueddfa hanesyddol, y capeli Cymraeg, ty cyntaf Dafydd Roberts (1873) ac atyniadau eraill. Sefydlwyd pentref Gaiman yn 1874 a ffurfiwyd llywodraeth fwrdeistrefol Gaiman – y cyntaf yn nhalaith Chubut - yn 1885 gydag awdurdod dros y dyffryn cyfan. Am lawer o flynyddoedd yn y Gymraeg a’r Sbaeneg y cofnodwyd manylion y llywodraeth. Prif atyniad y pentref heddiw yw ei Gymreictod a’r cymeriadau sydd yn byw yno a bydd cyfle am sgwrs ddifyr gyda disgynyddion y gwladfawyr gwreiddiol – Cymraeg neu Sbaeneg wrth gwrs! Taith hanner diwrnod (yh): yn y prynhawn byddwch yn ymweld â Capel Moriah ar gyrion Trelew. Adeiladwyd y capel, y trydydd yn y Wladfa, yn 1880 ac y Parchedig Abraham Matthews oedd y gweinidog cyntaf. Yn unigryw ymysg capeli’r Wladfa, Capel Moriah yw’r unig un lle gwelwch fynwent ynghlwm. Mae’r capel wedi’i gofrestru’n Gofadail Hanesyddol Daleithiol gan lywodraeth Chubut. Wrth deithio yn y dyffryn byddwch yn teithio drwy ardaloedd Bryn Gwyn, Drofa Dulog a Pont Hendre, a bydd cyfle i weld sut mae ffermwyr y dyffryn yn dyfrio a thrin eu tiroedd er mwyn sicrhau llif sicr o ddwr gan ddibynnu ar natur y tir a’r defnydd sy’n cael ei wneud ohono.

8 Gaiman - Bod Iwan, fferm draddodiadol Gymreig yn Bryn Crwn
Bore yn rhydd: cyfle i fynd am dro yn Gaiman, cerdded y bryniau, neu phrynu un neu ddau o swfenîrs sy’n arddangos y ddraig goch. Taith hanner diwrnod (yh): ymweliad â fferm Bod Iwan, fferm Gymreig yn ardal Bryn Crwn. Ffermdy brics clai traddodiadol gyda waliau wedi’u plastro â mwd. Adeiladwyd y ty yn 1910 ar gyfer teulu Llwyd ap Iwan, yn dilyn trasiedi ei farwolaeth. Cafodd Llwyd ap Iwan - un o feibion y Parchedig Michael D. Jones - ei ladd gan ddau leidr yn Nant y Pysgod yn 1909. Yma byddwch yn cael eich tywys gan aelod o deulu presennol Bod Iwan – teulu Williams - ac yn cael gwybod am hanes y teulu a hanes a phwysigrwydd y camlesi a’r ffosydd tuag sicrhau llwyddiant y Wladfa yn y blynyddoedd cynnar. Yna byddwch yn ymweld â’r ffermdy sydd wedi ei gadw yn ei gyflwr gwreiddiol a’i ddodrefnu â dodrefn y cyfnod. Byddwch yn derbyn Te Cymreig yn y ffermdy yn ystod y prynhawn.
9 Gaiman / Trevelin - Taith dros y Paith i Trevelin, Cwm Hyfryd, yn yr Andes
Taith diwrnod llawn (600Km): i Trevelin dros y Paith i’r Andes. Mae crwydro’r paith, fel arfer, yn uchafbwynt ac yn gyfle i ryfeddu at olygfeydd anghredadwy o drawiadol, mewn awyrgylch o lonyddwch a thawelwch tra’n syllu ar y gorwelion anfeidrol. Mae’r Paith yn gyforiog o hanes; yn straeon ac enwau lleoedd yr hen gwladfawyr a fu’n anturio ac yn arloesi ar ei hyd. Teimlwch y wefr o ddod o hyd, o bosib, i rigol un o’r hen wagenni, neu ddarn o wydr lliwgar trwchus, neu hen gwpan, neu ddarnau rhydlyd o hen ffrwyn neu bedol. Yn ystod y daith byddwch yn ymweld â mannau o ddiddordeb arbennig yn cynnwys Rhyd y Beddau yn Dyffryn y Merthyron, Rocky Trip yn Dyffryn yr Allorau, a Nant y Pysgod yn Dyffryn Teca. Wedi cyrraedd Cwm Hyfryd byddwch yn cael eich tywys i’r gwesty yn Trevelin.

10 Trevelin - Trên bach “La Trochita” a thaith hanesyddol o Cwm Hyfryd
Taith hanner diwrnod (yb): i Esquel i fyrddio trên bach La Trochita. Un o nodweddion y trên bach yma yw culni y cledrau - 75 centimedr (29.5 modfedd) yn unig. Dyw’r rheilffordd hon heb newid fawr ddim er 1922 ac mae nifer o’r peirannau stêm heb eu tebyg. Mae gwasanaeth cyson i dwristiaid rhwng Esquel a Nahuel Pan, i fyny’r Cwm trwy Fwlch Esquel a 200 metr (650 troedfedd) yn uwch lle gwelwch olygfeydd godidog o’r paith wedi ei grasu gan losgfynyddoedd hynafol i’r gogledd, a Mynydd Llwyd i’r de. Mae’r daith gyfan yn cymryd tua phedair awr. Ysgrifennodd yr awdur Paul Theroux lyfr enwog "The Old Patagonian Express" yn disgrifio ei daith o Boston, UDA i Esquel ac yn cyrraedd y dref ar y Trochita. Taith hanner diwrnod (yh): taith hanesyddol o amgylch Cwm Hyfryd. Cyrhaeddwyd Cwm Hyfryd am y tro cyntaf gan y Gwladfawyr yn 1885 yn sgil taith i archwilio’r diriogaeth. Erbyn 1918, yr oedd cwmni dan arweiniad J. D. Evans wedi codi melin flawd y tyfodd pentref Trevelin o’i hamgylch. Byddwch yn ymweld â’r Amgueddfa Hanes wedi ei leoli yn yr hen felin, Amgueddfa Pentre Sydyn, yn nyffryn yr Aber Gyraints, sy’n cofnodi pleidlais gwlad 1902 a ddatrysodd yr anghydfod tiriogaethol rhwng yr Ariannin a Chile, ac amgueddfa Cartref Taid sydd yn cofnodi bywyd a gweithgareddau J D Evans a Malacara, ei geffyl ffyddlon. Bydd y prynhawn yn darfod gyda Te Cymreig yn Nhy Te Nain Maggie

11 Trevelin

Diwrnod yn rhydd: Cyfle i fynd am dro yn Trevelin a mwynhau golygfeydd o fynydd Gorsedd y Cwmwl, neu deithio ar y bws i’r siopau yn Esquel.

12 Trevelin - Parc Cenedlaethol Los Alerces a Saffari Dwr

Taith diwrnod llawn: i Parc Cenedlaethol Los Alerces. Mae’r parc yn un o rai mwyaf y wlad ac yn 263,000 hectar o dir (650,000 o aceri - tua’r un arwynebedd a Gwynedd). Nodwedd amlycaf y parc yw y coedwigoedd Alerce. Ychydig iawn o olion dynol sydd yno ac mae golygfeydd anhygoel, llynnoedd, afonydd a rhaeadrau niferus o bob maint wedi eu hamgylchynu â mynyddoedd wedi eu gorchuddio â choedwigoedd. Cypreswydden Batagonaidd yw’r goeden Alerce ac mae rhai sydd tua 3,000 o flynyddoedd oed yn y parc ac yn 70 metr (230 troedfedd) o uchder. Byddwch yn byrddio cwch a hwylio llynnoedd a chilfachau niferus i fwynhau golygfeydd o rewlif Glaciar Torrecillas. Ym mhen pellaf llyn Lago Futalaufquen byddwch yn cael eich tywys, am tuag awr, yn dilyn llwybr er mwyn gweld enghreifftiau o’r goeden Alerce.

13 Trevelin / Buenos Aires - Taith i Bariloche, Amgueddfa Frodorol Leleque ac El Bolsón
Taith diwrnod llawn (300km): i faes awyr Bariloche. Mae’r daith yma yn cymeryd rhyw 4-5 awr yn teithio i’r gogledd drwy rhanbarth yr Andes a’i golygfeydd godidog. Ar y ffordd, bydd yn bosib ymweld â amgueddfa frodorol Leleque a hefyd aros am ychydig yn El Bolsón, pentref prydferth mewn amgylchoedd anghredadwy. Bydd eich hediad i Buenos Aires yn cymeryd tua 2 awr lle bydd un o’n cynrychiolwyr yn disgwyl i’ch tywys i’r gwesty
14 Buenos Aires
Yn dibynnol ar amseru eich hediad, gallwch mwynhau Buenos Aires a’r atyniadau mae’r ddinas yn ei gynnig. Ewch am dro drwy’r strydoedd neu ar hyd y parciau ar lan yr afon Río Plata (River Plate). Gofynnwch i’n cynrychiolydd am wybodaeth. Ar yr amser priodol byddwch yn cael eich cludo i faes awyr rhyngwladol Ezeizah a bydd ein cynrychiolydd yn cadw cwmni â chi tan gyrraedd y fan gwirio pasportau.
Nodiadau
Mae’r pris wedi ei seilio ar 2 yn rhannu ystafell ac mae’n cynnwys: · Hediadau mewnol fel dangosir.· Gwestai (4* yn Buenos Aires, 2*-4* o ansawdd mewn mannau eraill).· Teithiau (mewn bysiau mini neu gerbydau 4x4 preifat).· Tywysydd personol (Saesneg Buenos Aires, Cymraeg neu Saesneg yn Patagonia).· Brecwast pob bore a phrydau eraill o fwyd fel dangosir yn y rhaglen.· Costau mynediad i barciau cenedlaethol, gwarchodfeydd ac amgueddfeydd. Nid yw’r pris yn cynnwys:· Hediadau rhyngwladol i ac o Buenos Aires neu fannau eraill.· Treth ymadael maes awyr hediadau mewnol (tua $7 ARS).· Treth ymadael maes awyr rhyngwladol Ezeizahl (tua $18 USD).· Teithiau opsiynol bydd yn bosib trefnu gyda thywysyddion.· Prydau cinio a swper on nad yn ymddangos ar y rhaglen.· Diodydd mewn gwestai nag gyda phrydau.· Yswiriant teithio personol.· Gwasanaeth golchi dillad.
Cyfeiriadau Gwe Eraill
Estancia (enghraifft) www.donsilvano.com
Amgueddfa’r Glaniad, Porth Madryn www.puntacuevas.madryn.com/ english
Gorynys Valdés, Safle Treftafaeth y Byd
Amgueddfa Palaeontoleg MEF, Trelew www.mef.org.ar
La Trochita www.latrochita.org.ar/trochiingles
Parc Cenedlaethol Los Alerces www.parquesnacionales.gov.ar
Amgueddfa Leleque www.welcomeargentina.com/paseos/leleque

Peruvian Secrets Ltd · Unit 4 · Business Units · Brynsiencyn · Anglesey · LL61 6HZ

© 2000 - 2007 Peruvian Secrets Ltd, UK, or affiliates
administrator@peruviansecrets.co.uk



Trek the world famous Inca Trail to Machu Picchu... from only £749 per person